Skip to content

Tân ac achub

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Tân ac achub

Dynion tân yn diffodd tân.

Ers i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gael ei ddatganoli'n ffurfiol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Awdurdodau Tân ac Achub, personél y gwasanaethau a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid allweddol eraill wedi bod yn gweithio i sicrhau ein bod yn parhau i gael y gwasanaethau tân ac achub gorau posibl.

Rydym yn cydnabod bod darparu gwell gwasanaethau tân ac achub ar gyfer pobl Cymru yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion yr awdurdodau tân ac achub unigol i weithio gyda’u cymunedau lleol a chyda’i gilydd. Drwy gydweithio, gallwn leihau nifer y marwolaethau a'r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan danau, a diogelu eiddo domestig a chyhoeddus yng Nghymru.

Mae gennym hefyd rôl bwysig i’w chwarae o safbwynt atal tân, ac o ran addysgu a chysylltu â chymunedau ledled Cymru. Mae diffoddwyr tân yn bobl uchel eu parch y gall ein pobl ifanc eu hefelychu, tra bo gorsafoedd tân, llawer ohonynt mewn lleoliadau canolog yn ein cymunedau, yn datblygu'n ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â chyflawni'u rôl draddodiadol.

Bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn gweithio i ddarparu gwasanaethau a fydd yn ymateb i’r galw ac yn parhau i gynnig y safonau uchel yr ydym bellach yn eu disgwyl.


Y newyddion diweddaraf

Gweinidog yn agor Ystafell Cyswllt â'r Gymuned yng Ngorsaf Dân Treforys

16/05/08
Bydd plant a phobl ifanc yn ardal Abertawe yn elwa ar Ystafell Cyswllt â'r Gymuned newydd a agorwyd ddoe (dydd Iau 15 Mai) gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, yng Ngorsaf Dân Treforys.
Bwletin Ystadegau Tân Cymru, Chwarter 1 2007

Bwletin Ystadegau Tân Cymru, Chwarter 1 2007

01/05/08
Mae'r ystadegau ar danau yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2007. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 14 Rhagfyr 2007.

Dolenni perthnasol

Blaenoriaethau, amcanion a chanllawiau ar gyfer gwasanaethau tân ac achub.
Byddwch yn rhan o’n Tîm – annog merched i ystyried gyrfa fel diffoddwyr tân.
Rhagwelir y bydd y Strategaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio a chynnig canllaw i’r rheini sy’n ymgymryd â chynlluniau ar gyfer lleihau llosgi a thanau bwriadol yng Nghymru.
Mae'r bwletin hwn, ar gyfer y cyfnod 1994-2006, yn darparu dadansoddiad manwl blynyddol diweddaraf o'r tanau yr ymatebwyd iddynt gan Wasanaethau Tân ac Achub Cymru.
Deiliad y swydd newydd hon fydd y prif gynghorydd proffesiynol i Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â thân ac achub.