Skip to content

Cyswllt Ffermio

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyswllt Ffermio

logo Cyswllt Ffermio

Canolbwyntio ar ffermwyr
Cynorthwyo teuluoedd sy'n ffermio
Helpu eich busnes i gyrraedd ei botensial

Ymunwch â Chyswllt Ffermio, y gwasanaeth adnabyddus ac integredig ar gyfer busnesau ffermio ledled Cymru.

Rydym yn darparu cymorth un i un, gwybodaeth, arbenigedd, hyfforddiant a gwasanaethau cynghori, wedi'u teilwra i'ch anghenion chi. Caiff llawer o'r gwasanaethau eu hariannu'n gyfan gwbl neu eu cymorthdalu, ac fe allant eich helpu chi a'ch teulu i redeg eich busnes yn fwy effeithlon a sicrhau dyfodol eich busnes fferm.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr yn helpu busnesau fferm cymwys i fodloni rheoliadau trawsgydymffurfio ac amgylcheddol.

Bydd ein tîm o arbenigwyr yn cynnig arweiniad i chi ar y canlynol:

  •  Cyflwyno a chynnal arferion ffermio cynaliadwy
  •  Diogelu'r amgylchedd
  •  Gwella iechyd a lles anifeiliaid
  •  Rheoli tir a choetiroedd
  •  Mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd
  •  Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
  •  Deall systemau cynllunio
  •  Cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000813.

logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth ar gyfer ffermio, datblygu gwledig, adfywio gwledig a Gwlad
Y strategaeth ar gyfer datblygu gwledig yng Nghymru
Cewch ar y dudalen hon wybodaeth am y Tîm Cysylltwyr Fferm a sut i gysylltu â nhw
Wybodaeth am Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Darllenwch gylchgrawn Amaethyddiaeth a Materion Gwledig y Cynulliad