Cynllun Sabothol ar gyfer hyfforddiant iaith-Gymraeg
Diben y Cynllun Sabothol iaith-Gymraeg yw rhoi cyfle i athrawon, darlithwyr neu hyfforddwyr sy’n dymuno dysgu, darlithio neu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog dderbyn hyfforddiant iaith-Gymraeg a phedagogaidd.
I ddechrau, mae’r cynllun wedi’i anelu at y rheini sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, naill ai fel siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr rhugl, ond bod diffyg hyder ganddynt neu ddiffyg terminoleg arbenigol yn y Gymraeg er mwyn gallu defnyddio’u sgiliau mewn cyd-destun proffesiynol.
Bydd y Cynllun Sabothol hwn yn cyd-fynd â’r Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr Proffesiynol a bydd yn cael ei leoli yn y lle cyntaf ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a Phrifysgol Caerdydd. Bydd yn cynnig cyfle i ymgeiswyr dderbyn hyfforddiant iaith dwys ynghyd â hyfforddiant methodolegol mewn dysgu cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog, a gwybodaeth arbenigol o derminoleg benodol ei maes neu arbenigedd.
Cliciwch yma i gael mynediad i wefan y Cynllun Sabothol a gynhelir gan Brifysgol Bangor: www.cynllunsabothol.org. Mae'n cynnwys gwybodaeth am y cwrs ac adnoddau defnyddiol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.