Clwy'r traed a'r genau
Feirws sy’n achosi'r clefyd. Ceir o leiaf dri math o feirws, ond dim ond yn y labordy y mae modd gwahaniaethu rhyngddynt gan fod eu symptomau’n debyg iawn.
Mae Clwy’r Traed a’r Genau yn fwy heintus, mae’n debyg, nag unrhyw glefyd arall ar ddyn ac anifail a gall ymledu’n gyflym os na cheir rheolaeth arno. Mae anifeiliaid fferm fel gwartheg, defaid, moch, geifr a cheirw yn gallu dal y clefyd. Gall eliffantod, draenogod, llygod mawr a phob anifail â charnau hollt ddioddef ohono hefyd.
Mae Clwy’r Traed a’r Genau yn endemig mewn rhannau o Asia, Affrica, y Dwyrain Canol a De America ond mae’r clefyd yn ymddangos o dro i dro mewn ardaloedd diglefyd. Ar ôl blynyddoedd lawer yn rhydd o'r clefyd, daeth yn ôl i'r wlad hon yn 2001, gyda 2,030 o achosion rhwng mis Chwefror a dechrau mis Hydref 2001.
Nodwch mai thrwy Saesneg yn unig mae rhan o'r cynnwys yma ar gael ar hyn o bryd. Gobeithiwn gael fersiwn Gymraeg yma cyn gynted a phosibl. Ymddiheurwn am unrhyw anhwyluster.
Gwybodaeth ddiweddaraf 31/12/07
-
Nodyn Wybodaeth i Gwsmeiriaid: GEN CIN 2007/76 - Diwedd y mesurau diogelu rhag ctg, ddaeth i rym yn sgil penderfyniad y comisiwn 2007/554/EC (pdf 51kb)
-
Nodyn Wybodaeth i Gwsmeiriaid GEN CIN 2007-73 - Achos o glwy'r traed a'r genau: Cyprus (pdf 14kb)
-
Rheolau cyfyngiadau allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) 2007 (word 357kb)
-
Nodyn Wybodaeth i Gwsmeiriaid GEN CIN 2007-71 - Clwy'r traed a'r genau: Ymlacio pellach o'r rheolau yn rhoi'r gallu i ailafael yn yr allforiant o anifeiliaid byw ac ymestyn yr ymlaciad o fasnach mewn cynnyrch anifeiliaid (genetig, cig, cynnyrch cig, llaeth, cynnyrch llaeth, crwyn a chynnyrch "eraill" o anifeiliaid (pdf 58kb)
-
Nodyn Wybodaeth i Gwsmeiriaid GEN CIN 2007-71 - Map masnach yr UE (pdf 1.6mb - Saesneg yn unig) D.S. This is a large file and may take some time to download
-
Nodyn Wybodaeth i Gwsmeiriaid GEN CIN 2007-71 - Drafft o benderfyniad gan y comisiwn yn diwygio Penderfyniad 2007/554/EC ynglyn a rhai mesurau amddiffynol rhag chlwy'r traed a'r genau yn y Deurnas Unedig (Saesneg yn unig - pdf 280kb)
Gwybodaeth ddefnyddiol am glwy’r traed a’r genau
-
Sut mae clwy’r traed a’r genau yn cael ei ledaenu
-
Arwyddion o glwy’r traed a’r genau
- Beth i’w wneud os ydych yn amau bod clwy’r traed a’r genau ar eich anifeiliaid chi
 phwy y dylech gysylltu:
Os ydych yn poeni am unrhyw agwedd ar y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod oherwydd clwy’r traed a’r genau, cysylltwch â’ch Swyddfa Iechyd Anifeiliaid lleol.
Caerfyrddin 01267 245400
Caerdydd 029 2076 8500
Caernarfon 01286 674144
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol, ffoniwch linell gymorth Defra ar 0845 933 5577.
Rheoli'r clefyd: Bioddiogelwch
Ystyr llythrennol y gair 'bioddiogelwch' yw 'bywyd diogel'. Os ydych yn gweithio gydag anifeiliaid fferm neu'n dod i gysylltiad â nhw, mae 'bioddiogelwch' yn golygu gofalu bod trefniadau da yn eu lle ar gyfer cynnal safonau hylendid uchel. Bydd hynny'n rhwystro'r clefyd rhag lledaenu.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am fesurau bioddiogelwch (dolen allanol - Saesneg yn unig)
Caiff gwybodaeth newydd ei rhoi ar y wefan hon pan ddaw i law.
I gael gwybodaeth AM DDIM am y traed a’r genau, tecstiwch GWYBOD at 64118 i gofrestru
I gael gwybodaeth ar eich ffôn am y Yraed a’r Genau yng Nghymru, tecstiwch GWYBOD (am wybodaeth yn Gymraeg) neu ALERT (am wybodaeth yn Saesneg) at 64118.
Codir pris tecstio safonol eich rhwydwaith am anfon y tecst cynta i gofrestru am y gwasanaeth. Nid oes tâl am gael gwybodaeth am y Traed a’r Genau.
I ganslo, tecstiwch STOP at 64118.