Skip to content

Hafan

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Hafan

Dysgwyr yn gwrando yn y dosbarth Croeso i wefan canllawiau addysg bersonol a chymdeithasol.

Beth yw addysg bersonol a chymdeithasol?

Addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yw popeth y bydd ysgol neu goleg yn ei wneud i gynnal a hybu datblygiad personol a chymdeithasol eu pobl ifanc.  Mae’n cynnwys cyfleoedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi.

Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am ABCh i bawb sydd wrthi’n cyflwyno ABCh eang, gytbwys mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae’n darparu:

  • cysylltiadau â’r fframwaith anstatudol, Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
  • esboniadau ar yr ymagwedd thematig at ABCh
  • cyngor am reoli a chydlynu agwedd gyfannol at ABCh
  • mynegbyst at ffynonellau cymorth
  • astudiaethau achos sy’n dangos sut i lwyddo i sicrhau deilliannau dysgu’r cyfnodau allweddol o’r fframwaith ABCh.

Os ydych am gael mwy o wybodaeth ynglyn ag addysg bersonol a chymdeithasol, anfonwch e-bost at Ymholiadau addysg bersonol a chymdeithasol: Personalandsocialeducationenquiries@wales.gsi.gov.uk.

Dolenni perthnasol

Rhan hanfodol o ddatblygiad personol a chymdeithasol yw meithrin sgiliau personol a chymdeithasol.
I hybu ABCh gytbwys ac eang, mae’r deilliannau dysgu’n cael eu cyflwyno mewn pum Thema.